Ddydd Sul, 16 Mawrth, cwblhaodd Mel Herbert, Diffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Pont-iets, Hanner Marathon Mawr Cymru – mewn cit diffodd tân llawn.
Ar ôl sawl wythnos o baratoi, cwblhaodd Mel y ras 13 milltir o hyd yn gwisgo tiwnig diffodd tân, trowsus a set offer anadlu – a’r set honno’n pwyso tua 13 pwys ar ei phen ei hun – mewn ychydig llai na thair awr.
Penderfynodd Mel ymgymryd â’r her o gwblhau’r ras, a ddechreuodd ac a ddaeth i ben ym Mharc Gwledig Pen-bre ac a oedd yn cynnwys Porth Tywyn, i godi arian pwysig ac ymwybyddiaeth o Elusen y Diffoddwyr Tân. Mae’r Elusen yn cynnig cymorth gydol oes i les meddyliol, corfforol a chymdeithasol diffoddwyr tân sy’n gwasanaethu a’r rhai sydd wedi ymddeol, ac i’w teuluoedd a phersonél eraill y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Wrth siarad am gwblhau Hanner Marathon Mawr Cymru, dywedodd Mel:
“Roedd y gefnogaeth a gefais gan y dorf a’m cyd-redwyr yn anhygoel.
Rwy’n siŵr y gellid bod wedi clywed y dorf filltiroedd i ffwrdd ac roedd eu cymeradwyaeth yn fy nghadw i fynd tuag at y llinell derfyn. Fe wnes i hyd yn oed dynnu fy nghlustffonau tuag at ddiwedd y ras i allu ymgolli yn y cyfan!
Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i’m cyd-aelodau o’r criw yng Ngorsaf Dân Pont-iets sydd wedi fy annog drwy gydol fy hyfforddiant ac a ddaeth i ddangos eu cefnogaeth ar y diwrnod. Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu’n dda iawn ac roedd yn brofiad anhygoel na fyddaf byth yn ei anghofio.”
Ar hyn o bryd mae Mel wedi codi dros £560 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac mae’n dal i godi arian trwy ei thudalen JustGiving.
Gwneud Gwahaniaeth fel Diffoddwr Tân Ar Alwad
Yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn ei chymuned yn dilyn trasiedi deuluol, cafodd Mel ei hysbrydoli i fynd i Ddiwrnod Blasu i Ddiffoddwyr Tân, digwyddiad a gynhelir yn rheolaidd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Mae Mel bellach yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Pont-iets, sy’n golygu ei bod yn cael ei hysbysu am alwadau brys trwy ddyfais alw bersonol tra ar ddyletswydd.
Am ei gwaith fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, dywedodd Mel:
“Er fy mod yn dal yn fy mlwyddyn gyntaf fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, rwy’n mwynhau fy rôl yn fawr.
Rwy’n mwynhau’r cynnwrf o ymateb i ddigwyddiad a gweld fy mod yn gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned ac i bobl mewn angen. Rwyf hefyd wedi mwynhau’r hyfforddiant sy’n dod fel rhan o’r rôl. Yn ddiweddar fe wnes i gwblhau fy hyfforddiant ar gyfer ymateb i ataliad ar y galon, a fydd yn gwella gallu’r Orsaf Dân i ymateb i sefyllfaoedd.
Mae’r canfyddiad hen ffasiwn yn dal i fodoli, sef na all menywod fod yn Ddiffoddwyr Tân, ond rwy’n brawf y gall menywod ddod â chryfder a safbwyntiau amrywiol i broffesiwn sy’n elwa o gynwysoldeb a gwaith tîm.
I unrhyw un sy’n ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, byddwn yn eu hannog i fynd amdani – dyma’r peth gorau dwi wedi ei wneud.”
Mae 75% o Orsafoedd Tân ac Achub Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu criwio’n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.
Fel rôl y System Ddyletswydd Amser Cyflawn, mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn ymateb i danau a digwyddiadau gwasanaeth arbennig fel gwrthdrawiadau ar y ffordd, argyfyngau cemegol, achub anifeiliaid, llifogydd a mwy. Mae’n ofynnol iddynt hefyd hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol a chynnal Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref yng nghartrefi pobl.
Am fwy o wybodaeth am sut i ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, ewch i wefan y Gwasanaeth.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle