Llafur yn ‘dileu’ galwadau Plaid Cymru i weithredu taliad plant i daclo tlodi plant

0
352
Sioned Williams AS/MS Plaid Cymru - The Party of Wales

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos bod tlodi plant wedi cynyddu 2% i 31% yng Nghymru, y cynnydd uchaf o holl genhedloedd y DU. Fodd bynnag, cyn dadl Plaid Cymru yn y Senedd ar Ebrill 2il 2025, lle byddant yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu taliad plant, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dileu’r galwadau yn eu gwelliant i’r cynnig gwreiddiol ar dlodi plant

Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio unwaith eto ar ‘ymrwymiad… i ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban i ddeall Taliad Plant yr Alban yn well a sut mae’n gweithio’ er bod hyn wedi bod yn destun trafodaeth ers nifer o flynyddoedd yng Nghymru.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams, wedi beirniadu penderfyniad y Llywodraeth i ddileu’r alwad, gan gyhuddo Llafur o ‘oedi’ a ‘gwrthod cymryd camau uniongyrchol i fynd i’r afael â thlodi plant’ gan ei alw’n ‘staen cenedlaethol’.

Daw hyn yn yr un wythnos ag y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi dewis torri yn agos i £5 biliwn mewn gwariant lles, penderfyniad a fydd yn gwthio 50,000 o blant i dlodi ledled Cymru a Lloegr.

Cyhoeddodd Plaid Cymru daliad plant uniongyrchol i fynd i’r afael â thlodi plant yn eu Cynhadledd Wanwyn yn Llandudno wythnos diwethaf. Bydd y taliad yn ‘cynyddu cefnogaeth trwy roi arian ym mhocedi’r bobl dlotaf yn ein cenedl’.

Mae cynllun tebyg yn yr Alban wedi cael effaith drawsnewidiol ar dlodi plant, gan helpu’r Alban i fod yr unig genedl yn y DU lle mae disgwyl i lefelau tlodi plant ostwng.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS:

“Mae Llafur yn methu ein plant a’n pobl ifanc, fel y mae ffigyrau’r Llywodraeth a ryddhawyd yr wythnos hon yn dangos. Nid yn unig yw tlodi plant yn tyfu yng Nghymru, ond mae’n tyfu ar y gyfradd gyflymaf o holl wledydd y DU. Mae hyn yn ganlyniad o 25 mlynedd o ddiffyg gweithredu Llafur i fynd i’r afael â’r staen cenedlaethol, sef tlodi plant.

“Mae eu dewis i ‘ddileu’ galwadau Plaid Cymru i weithredu taliad plant yn enghraifft arall o’u hanfodlonrwydd i gymryd camau uniongyrchol i fynd i’r afael â thlodi plant. Pa mor hir y bydd Llafur yn fodlon dim ond siarad am y mater, wrth ystyried fod y camau sydd eu hangen yn amlwg ac yn llwyddiannus mewn llefydd eraill.

“Mae gan Blaid Cymru atebion real ac uchelgeisiol i fynd i’r afael â thlodi plant. Mewn Llywodraeth byddwn yn cymryd camau i gefnogi’r 31% o blant sy’n tyfu i fyny mewn tlodi ar hyn o bryd, sydd yn byw mewn aelwydydd sy’n cael trafferth dod a dau ben llinyn ynghyd, trwy weithredu taliad plant.

“Tra bod Llafur yn hapus i oedi, bydd Plaid Cymru yn gweithredu. Tra bod Llafur yn dewis torri bron i £5 biliwn mewn cefnogaeth i’r rhai mwyaf bregus, bydd Plaid Cymru yn cynyddu’r gefnogaeth drwy roi arian ym mhocedi’r bobl dlotaf yng Nghymru. Tra bod Llafur yn hapus i barhau â’r status quo, mae Plaid Cymru yn cynnig dechrau newydd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here