Digwyddiad llorio’r llofrudd yn addo bod yn noson anfarwol yng Nghastell Caeriw

0
304
Capsiwn: Caiff Noson Llorio'r Llofrudd y Corff yn y Tŵr yng Nghastell Caeriw ei chynnal nos Sadwrn 18 Mehefin.

Bydd noson llorio’r llofrudd, gyda thema hanesyddol, yn cael ei chynnal yng Nghastell Caeriw nos Wener 18 Gorffennaf.

Wedi’i leoli yng Nghaeriw yn ystod y 15fed ganrif, mae’r Corff yn y Tŵr yn sôn am ddathliad unigryw yn yr awyr agored yng Ngardd Furiog Caeriw, sy’n cael ei ddifetha ar ôl dod o hyd i gorff.

Bydd rhan fwyaf o’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr awyr agored, gyda chanapés a diodydd wedi’u cynnwys ym mhris y tocyn. Yn rhan o’r noson, bydd angen olrhain a chwestiynu’r rhai sydd dan amheuaeth er mwyn helpu’r Foneddiges Eva a’i Cheidwad i ddatrys y trosedd erchyll hwn.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Rydyn ni’n falch iawn o gynnal un arall o’n digwyddiadau Llorio’r Llofrudd poblogaidd yn y Castell, gyda throsedd newydd yn aros i gael ei datrys.

“Bydd hi’n noson i’w chofio, a bydd y gwesteion yn cael eu gwahodd i gamu’n ôl mewn amser i ddarganfod pwy sydd wedi cyflawni’r drosedd yn un o leoliadau mwyaf prydferth Sir Benfro.

“Mae croeso i bawb wisgo dillad, gorchuddion wyneb neu hetiau o’r cyfnod – er bod dillad cynnes ac esgidiau call yn cael eu hargymell hefyd.”

Mae’r giatiau’n agor am 5.45pm, a’r digwyddiad yn dechrau am 6pm.                                                                                                                           

Mae tocynnau yn £21 i oedolion ac yn £18 i blant (ddim yn addas i blant o dan 13 oed). Mae’n rhaid i chi archebu lle. I archebu lle, ffoniwch 01646 651782. Sylwch nad oes modd cael ad-daliad ar docynnau.

I gael rhagor o wybodaeth am Gastell Caeriw, sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.castellcaeriw.com.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle